Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 23 Ionawr 2018
Amser:
10.15 -
10.27
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Jayne Bryant AC (Cadeirydd) Gareth Bennett AC Paul Davies AC Llyr Gruffydd AC |
Staff y Pwyllgor: |
Meriel Singleton (Ail Glerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Enrico Carpanini (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2.1 Trafododd yr Aelodau y Cod Ymddygiad drafft a chytunwyd i ddychwelyd at yr eitem hon yn y cyfarfod nesaf.
Esgusododd Jayne Bryant ei hun ar gyfer Eitem 3, sef yr eitem ar yr Adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.1(1). Roedd hyn oherwydd bod y gŵyn a gyflwynwyd ar ran Grŵp Llafur y Cynulliad yn ei chynnwys hi.
Paul Davies AC oedd y Cadeirydd ar gyfer Eitem 3 yn dilyn cytundeb y Pwyllgor ar 15 Tachwedd 2016, ei fod yn cael ei ethol yn Gadeirydd dros dro.
3.1 Trafododd yr Aelodau yr adroddiad drafft a chytunwyd arno.